Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mehefin 2018
Amser:
09.02 -
10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4757
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Nathan Lee Davies, Deisebydd Angie Evans, Cefnogwr Adam Samuels, Cefnogwr |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb; ac
· Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am y ffordd y caiff datblygiadau dofednod llai eu hystyried, neu'r ffordd y gellid ystyried y mater hwn, ac a ellir grymuso Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar effeithiau cronnol cael sawl datblygiad o'r fath mewn ardal benodol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at:
o Adnoddau Naturiol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r sylwadau manwl a wnaed gan y deisebwyr, ac i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad a'r amserlenni tebygol ar gyfer penderfynu ar bolisi ar y mater hwn yn y dyfodol;
o Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ymateb i'r pryderon a fynegwyd ynghylch digonolrwydd y Cod Ymarfer er Lles Adar Hela a'r camau a gymerir i fonitro'r cod hwn; ac i
· drafod gofyn am amser yn y Cyfarfod Llawn i gynnal dadl ar y mater hwn unwaith y bydd ymatebion i'r cwestiynau hyn wedi dod i law.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433, Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad i deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399, Arferion Lladd Anifeiliaid, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad i deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i drafod gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a chytunodd i drafod y posibilrwydd o wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb yn y dyfodol yn ystod trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am waith gan Lywodraeth Cymru i drafod yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen â gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a'r amserlenni posibl dan sylw, yn dilyn ei hymateb i'r ddadl ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth am benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyhoeddi gwybodaeth yn deillio o'r arolwg o gyflwr ysgolion, a chyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar reoli asbestos mewn ysgolion.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:
· ei hymateb i'r cynigion a wnaed gan y deisebwyr;
· ei barn ar y posibilrwydd y gallai'r consortia addysg rhanbarthol gymryd rhan yn y trefniadau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi yn eu hardaloedd; a'r
· wybodaeth ddiweddaraf am:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu eto at yr Adran Drafnidiaeth i ailadrodd eu bod yn gofyn am ymateb penodol i'r cwestiwn a ddylai gwregysau diogelwch fod yn angenrheidiol ar fysiau cyhoeddus ac a ddylai gwiriadau DBS fod yn ofynnol ar gyfer gyrwyr bysiau cyhoeddus, er bod y Pwyllgor yn deall nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i:
· aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac
· ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i ofyn a ydynt ymwybodol o bryderon ynghylch amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Wrecsam Maelor, ac a ydynt wedi gwneud unrhyw waith ar y mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a Dr Sue Whitcombe, a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am fwriad Llywodraeth Cymru a CAFCASS Cymru mewn perthynas ag:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ganlyniad ei chyfarfod â Bwrdd Iechyd Cwm Taf cyn trafod y ddeiseb eto.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Oherwydd cyfyngiadau amser ni chynigiwyd y Cynnig.
Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i'r cyfarfod.
Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod ei flaenraglen waith y tu allan i'r cyfarfod.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd, Angie Evans ac Adam Samuels.